Tryfan Rhiw

  Tŷ Gwyliau, ym Mhen Llŷn

English Version     Gartref   Amdan     Sut i ddod i Rhiw     Bwyd y Mr    Adeiladwyr    Hanes      Lluniau Llŷn    Datganiad Mynediad   Dolenau
 

Hanes

 

Saif Tryfan rhwng pentrefi Rhiw ac Aberdaron. Mae Rhiw yn un or pentrefi uchaf yn Llŷn, gyda golygfeydd gwych o Ben Llŷn, y Canolbarth a De Cymru, Ynys Mn, Mynyddoedd Eryri, a hefyd Iwerddon ar ddiwrnod clir.

Mae cysylltiad agos iawn rhwng Aberdaron ac Ynys Enlli, gyda thripiau yn mynd yno o Borth Meudwy bob dydd yn yr Haf, pan for tywydd yn ffafriol.  Cewch bryd o fwyd yn y Gegin Fawr,lle byddair pererinion yn aros cyn croesi i Enlli.  Os ewch i ben Mynydd Mawr yn Uwchmynydd, cewch olygfa wych o Enlli, dros y Swnt, a gweddill Llŷn. Maen werth croesir Swnt i fwynhau tangnefedd Enlli, lle dywedir fod ugain mil o saint wedi eu claddu.

Wrth droed Mynydd Mawr, mae olion Eglwys Fair ac yn is i lawr yn y creigiau mae Ffynnon Fair, lle golchair pererinion blinedig eu traed cyn croesir Swnt peryglus mewn cyryglau bychain, a chyffwrdd daear gysegredig Enlli.

Maer mr yn rhan bwysig o fywyd pobl Llŷn ac wedi bod felly erioed. ’r pysgotwyr allan i godi eu cewyll gan obeithio cael helfa dda o grancod a chimychiaid yn ogystal a mecryll a physgod eraill.

Drylliwyd llawer o longau ym mae Porth Neigwl yn yr hen amser a dywedir fod pobl yr ardal yn elwa or hyn a olchid ir lan, ac yn l yr hanes yn cymeryd modrwyau a phethau eraill oddiar gyrff y rhai anffodus gollodd eu bywydau ac a olchwyd ir lan.

Mae llawer o olion bywyd yn yr hen amser yn yr ardal, yn cynnwys hen amddiffynfeydd, cromlechi a ffatri gwneud bwyeill o Oes y Cerrig.

Saif eglwys hynafol Sant Hywyn uwchben y traeth yn Aberdaron ac mae yn agored bob dydd. Bur bardd a chenedlaetholwr, R. S. Thomas yn ficer yma am rai blynyddoedd, ac ar l ymddeol bun byw mewn bwthyn bach uwchben Porth Neigwl ar dir Plas yn Rhiw.

Diddorol iawn ywr wybodaeth a gawsom yn ddiweddar fod Owain Glyndwr wedi bod  yn Aberdaron, yn nhŷ Deon Bangor, yn 1405, yn arwyddo cytundeb cyfrinachol rhyngddo ef ag Edward Mortimer a Iarll Northumberland.  Dymar cytundeb oedd yn nodi sut y rhennid Cymru a Lloegr rhwng y tri pebaent yn gorchfygu a diorseddu brenin Lloegr. Aflwyddiannus fuont yn yr ymosodiad, ond petaent wedi llwyddo, byddai hanes Cymru a Lloegr wedi bod yn wahanol iawn.

Honna awduron Journey to Avalon, fod yn yr ardal gysylltiadau agos r Brenin Arthur, mai Ynys Enlli yw Ynys Afallon, ac mai yng Nghadlan, rhwng Rhiw ac Aberdaron, yr ymladdwyd Brwydr Camlan.

Dewch yma i fwynhau heddwch a  phrydferthwch y Penrhyn. Cewch glywed yr iaith Gymraeg, cerdded llwybr yr arfordir, defnyddior llwybr beicio, mwynhau pob math o chwaraeon dŵr, ymlacio ar y traethau a gwledda ar fwydydd lleol or ffermydd ac or mr on cwmpas.

~~~~~~~~~~~~

Lluniau gan Tony Jones  www.llynlight.co.uk


 

Further details available from Mrs. Menna Jones  Tel 01758 780 269